Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Allanol |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 2 Tachwedd 2020 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.10 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Rhun ap Iorwerth AS David J Rowlands AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil Nia Moss, Y Gwasanaeth Ymchwil Phil Boshier, Y Gwasanaeth Ymchwil Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.
2 Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2021/22. Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft
Trafododd y Comisiynwyr yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, yn dilyn ei waith craffu. Trafododd y Comisiynwyr feysydd yr oedd y Pwyllgor wedi bod â diddordeb arbennig ynddynt: Goblygiadau ariannol pandemig COVID-19, gan gynnwys yr effaith ar gronfa’r prosiect; Cynllun Ymadael Gwirfoddol 2019 a’r strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, ynghyd ag archifo a gwydnwch parhad busnes.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i’r argymhellion, gan gymeradwyo dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2021-22, a fydd yn cael ei gosod ar 4 Tachwedd 2020. Nodwyd bod dadl ar Gynnig y Gyllideb wedi’i threfnu yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Tachwedd 2020.
3 Diweddariad ynghylch COVID-19
Trafododd y Comisiynwyr bapur yn rhoi’r diweddaraf ar weithrediad y Comisiwn o dan reoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, fel ar 23 Hydref. Cawsant eu diweddaru ar lafar ar ddatblygiadau mwy diweddar, a thrafodwyd y cyfyngiadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd i ddilyn ymlaen o’r cyfnod atal byr (‘firebreak’), a nodwyd y bydd y Llywydd yn gwneud penderfyniadau mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Busnes ar fformat y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y Comisiynwyr weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd ar yr ystâd yn ystod cyfyngiadau covid. Ar ôl trafod agweddau yn ymwneud â diogelwch, cynllunio a lleoli staff yn effeithiol, cytunwyd ar gyfnod estynedig o gau i’r cyhoedd lle mai’r rhagdybiaeth ar hyn o bryd yw y bydd yr ystâd yn parhau ar gau i’r cyhoedd ac ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd hyd nes diddymu’r Pumed Senedd. Cytunwyd hefyd, pe bai amgylchiadau sy’n ymwneud â Covid-19 yn newid yn ddramatig yn ystod y cyfnod hwnnw y gellir ailedrych ar y penderfyniad hwn.
4 Y diweddaraf ar ymadael â’r UE
Clywodd y Comisiynwyr sut mae’r Comisiwn yn parhau i gyflawni ei flaenoriaeth o gefnogi ‘ymateb sefydliadol cryf’ i ymadael â’r UE. Roeddent yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i gefnogi’r Senedd fel deddfwrfa ac i liniaru’r risg i barhad busnes y Senedd o ran diwedd cyfnod trefniadau pontio’r UE ar 31 Rhagfyr 2020.
Hefyd, trafodwyd yr angen i wneud penderfyniad ar swyddfa’r Senedd ym Mrwsel, ac ar ôl dod o wahanol safbwyntiau, cytunwyd ar yr opsiwn i gynnal Swyddfa Brwsel fel y mae’n gweithredu ar hyn o bryd nes i’r Comisiwn wneud penderfyniad tymor hwy ar ei dyfodol yn y Chweched Senedd.
5 Diogelwch personol
Yn ddiweddar, nodwyd rhai Aelodau eu bod wedi profi materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a throlio. Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am y gefnogaeth a oedd ar gael, gan gynnwys tudalen newydd ar y fewnrwyd, a chamau pellach y gellid eu cymryd. Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a chytunwyd i dynnu sylw at y dudalen newydd ar y fewnrwyd gan ddod â gwybodaeth berthnasol ynghyd i aelodau eu grwpiau.
6 Papurau i’w nodi:
6.a Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio, sy’n cael ei ddarparu i bob cyfarfod o’r Comisiwn.
6.b Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Nododd y Comisiynwyr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dilyn y sesiwn dystiolaeth yn ymwneud â chraffu ar gyllideb ar gyfer 2019-20, ym mis Medi.
7 Unrhyw fater arall
· Materion ynghylch yr etholiad Cafodd y Comisiynwyr eu briffio ar botensial penderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion deddfwriaethol neu newidiadau eraill mewn perthynas ag etholiad Senedd 2021, ar ôl ystyried adroddiad o’u grŵp etholiadau.
· Agwedd at y gwersi a ddysgwyd Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnig i ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd ynghylch darnau/agweddau allweddol mwyaf arwyddocaol ar waith y Comisiwn yn ystod y Pumed Senedd, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaeth nesaf y Comisiwn. Bydd hyn yn disodli’r gwaith o greu ‘adroddiad etifeddiaeth’ mwy traddodiadol, er mwyn osgoi bod gwybodaeth ddyblyg yn cael ei chasglu a’i chyhoeddi bob blwyddyn yn yr adroddiad blynyddol.
Dilyniant i Gwestiwn Llafar ar Gefnogi staff y Comisiwn sy’n gweithio gartref yn ystod y pandemig Derbyniodd y Comisiynwyr ddiweddariad byr yn ymateb i bwyntiau a nodwyd a gwybodaeth am ganlyniadau arolwg Parhad Busnes y Comisiwn. Roeddent yn croesawu’r gwaith helaeth a wnaed ac yn cydnabod y gallai barn ac anghenion gweithwyr fod yn wahanol dros gyfnod y gaeaf o gymharu â’u profiad yn ystod y gwanwyn a’r haf. Roeddent hefyd yn cydnabod arwyddocâd cyfrifoldebau Aelodau eu hunain fel cyflogwyr, er enghraifft wrth sicrhau bod eu staff cymorth yn cymryd gwyliau blynyddol.